In View

The home of community news

Deiniol

10 awgrym gan Dŵr Cymru i baratoi eich cartref ar gyfer y gaeaf

insulated pipes

Mae’r gaeaf ar y gorwel! Ac mae Dŵr Cymru moyn sicrhau na fyddech chi heb ddŵr na gwres yn ystod yr oerfel mawr. Dyma ddeg awgrym i sicrhau bod eich tŷ chi yn barod ar gyfer y gaeaf.

 

1. Lapiwch eich pibellau a’ch tapiau

Os oes gennych bibellau yn yr awyr agored, neu mewn lle oer fel llofft neu garej, lapiwch nhw â deunydd inswleiddio neu becyn lagio.

 

2. Tapiau awyr agored

Peidiwch â gadael pibell ddyfrio ynghlwm wrth dap awyr agored. Os oes gennych dap y tu allan i’ch eiddo, caewch y falf (a all fod y tu fewn i’r adeilad) a draeniwch y tap a’r pibellau. Bydd hyn yn eu hatal rhag cael eu difrodi ac yn atal yr oerfel rhag teithio i fyny’r bibell i’ch cartref.

 

3. Atal diferu

Mae tapiau sy’n diferu’n gallu cynyddu’r risg fod pibellau’n rhewi. Bydd eu trwsio’n arbed litrau o ddŵr y dydd i chi hefyd.

 

4. Ffeindiwch eich stoptap

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod ble mae’r stoptap, a’i fod e’n gweithio. Bydd angen i chi gyrraedd ato’n gyflym, a gwybod sut i’w gau os bydd y gwaethaf yn digwydd.

 

5. Mesurydd dŵr?

Os yw’ch mesurydd ar y wal y tu allan i’ch cartref, sicrhewch fod y pibellau sy’n mynd i mewn ac allan ohono wedi eu hinswleiddio ac nad oes unrhyw fwlch rhyngddynt, bod cwpwrdd y mesurydd wedi ei bacio â deunydd inswleiddio, a bod y drws yn dynn ar gau.

 

6. Oddi cartref?

Mae’r risg o broblemau’n uwch mewn adeiladau gwag. Os byddwch chi i ffwrdd o’ch cartref neu’ch busnes am ychydig ddyddiau, ystyriwch ddiffodd eich stoptap a draenio’r system – fel nad oes unrhyw ddŵr yn y system i rewi. Bydd cadw eich gwres ar osodiad isel yn cadw eich cartref yn gynnes, ac yn atal y pibellau rhag rhewi hefyd.

 

7. Cadwch eich cartref yn glyd

Cadwch eich cartref yn gynnes trwy ddefnyddio peth atal drafftiau a chau’r llenni gyda’r nos. Trefnwch fod rhywun yn dod i gynnal a chadw eich bwyler ac i sicrhau bod eich rheiddiaduron yn gweithio’n iawn.

 

8. Inswleiddio’r llofft

Bydd inswleiddio’ch llofft – neu ategu unrhyw ddeunydd inswleiddio sydd gennych eisoes – yn helpu i wresogi eich cartref yn fwy effeithlon, yn arbed ynni ac yn lleihau eich biliau ynni. Mae inswleiddio waliau ceudod yn gallu helpu i gadw eich cartref yn gynnes a chwtogi ar eich biliau gwres hefyd.

 

9. Cliriwch y gwteri

Cliriwch unrhyw ddail neu falurion o’ch gwteri a’ch draeniau. Bydd hyn yn helpu i atal tagfeydd a llifogydd. Mae’n gallu atal gollyngiadau a difrod i’ch waliau a’ch to hefyd.

 

10. Ystyriwch berthnasau, ffrindiau a chymdogion

Helpwch nhw os oes angen help llaw arnynt i baratoi – ac efallai y gallech chi gytuno i gadw llygad ar eich cartrefi eich gilydd os ydych chi’n mynd i fod i ffwrdd .

 

 

Get the latest updates from Newydd