“Dod at ein gilydd ydi’r dechrau. Aros gyda’n gilydd ydi cynnydd. Gweithio gyda’n gilydd ydi llwyddiant” – Henry Ford.
Tracy ydw i, swyddog adfywio cymunedol gyda Newydd.
Fy mhrif rôl yw arwain cynnwys tenantiaid a gwneud yn siŵr bod gan denantiaid lais o fewn ein sefydliad.
Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod ein sefydliad drwyddi draw wedi ymrwymo i gynnwys tenantiaid. Mae hyn yn rhywbeth y mae uwch reolwyr wedi arwain arno o’r cychwyn cyntaf. Anogir ein tenantiaid i ddweud eu dweud, ein helpu i wneud y penderfyniadau cywir a dylanwadu’n uniongyrchol ar y gwasanaethau y maent yn eu cael. Rydym yn ymgysylltu â’n tenantiaid oherwydd eu bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae llawer o’n tenantiaid yn mynd i gyfarfodydd, gweithdai, dod yn siopwyr cudd, archwilwyr ac yn ymateb i arolygon. Dros y blynyddoedd, maent wedi ein helpu i wneud gwelliannau pwysig. Un gwelliant o’r fath oedd argymell ein bod yn creu sefydliad llafur uniongyrchol i ddarparu gwasanaeth trwsio effeithiol. Un arall oedd sefydlu tîm gwasanaeth cwsmeriaid canolog i fod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer holl ymholiadau. Mae’r ddau argymhelliad yma wedi cael effaith sylweddol ar Newydd. Rydym nawr wedi sefydlu tîm trwsio cynnal a chadw a thîm gwasanaeth cwsmeriaid effeithiol. Mae hyn yn profi y gall bob tenant gyfrannu.
Ein Grŵp craffu, enillwyr gwobrau niferus, sydd wedi argymell y gwelliannau mwyaf arwyddocaol. Maent wedi bod yn flaenllaw yng Nghymru yn y maes craffu gan denantiaid ers bron i ddegawd. Maent yn parhau i’n herio ni ac yn creu newidiadau positif, maent yn llysgenhadon gwerthfawr iawn sy’n cynrychioli llais ein tenantiaid yn angerddol.
Yn bennaf, rydym wedi defnyddio dulliau traddodiadol i ymgysylltu â’n tenantiaid, ond ar ôl y newid mawr i fod yn ddigidol, byddwn yn cynnig mwy o gyfleoedd i’n tenantiaid gysylltu â ni. Mae hyn yn cynnwys gwella llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, e-bost/ymgynghori drwy gyfrwng negeseuon testun, My Newydd, blogio, blog fideo, adroddiadau cymunedol, fforymau ar-lein, fideos a phodlediadau.
Rydym newydd ail sefydlu grŵp tenantiaid ar gyfer pob un o’n prif adrannau. Roedd grwpiau fel hyn yn bodoli yn y gorffennol, ond rŵan rydym yn rhoi bywyd newydd i bedwar grŵp sy’n cael eu harwain gan denantiaid:
Bydd eleni yn flwyddyn heriol a chyffrous ond rwy’n edrych ymlaen at weithio â’n tenantiaid, rhai presennol a rhai newydd, i helpu i lunio gwasanaethau Newydd ar gyfer y dyfodol.
Wedi’r cwbl, caiff y freuddwyd ei gwireddu drwy weithio fel tîm!
Mae mwy o wybodaeth ar sut y mae ein tenantiaid yn ein helpu i symud ymlaen ar gael yma: #GwrandoGwneud