In View

The home of community news

Deiniol

Samyjo Childs: Camau yn y cyfeiriad cywir

Scott ydw i a fi sy’n arwain prosiect GetFit Cymru ar gyfer Cymdeithasd Tai Newydd. Cwrddais i â Samyjo Childs ar ôl i Christie Williams gyfeirio fi ati a’i siwrne anhygoel. Christie yw arweinydd prosiect RCT Yeps yn y Ddraenen Wen.

Cafodd Samyjo ei chyfeirio aton ni yn dilyn trawma personol. Roedd hi’n ei chael hi’n anodd ymdopi yn yr ysgol, gartref, ac mewn perthnasoedd. Roedd Samyjo yn amharod i ymuno â phrosiect GetFit Cymru ond o fewn ychydig, roedd hi’n gwirfoddoli ac yn arweinydd grwp chweched dosbarth.

Siaradais gyda Samyjo a dywedodd hi roedd hi’n eithaf diog cyn ymuno â’r prosiect, gan dreulio’r rhan fwyaf o’i hamser yn gwylio teledu. Yn yr ysgol, nid oedd llawer o anogaeth iddi gymryd rhan mewn ymarfer corff ac roedd hi’n cael trafferth gyda’i gwaith ysgol.

 

Cam yn y cyfeiriad cywir

Fodd bynnag, drwy gydol y prosiect, croesawodd Samyjo yr heriau a gosodwyd gan Christie a GetFit Cymru. Fel canlyniad, dechreuodd hi ennill nifer fawr o bwyntiau a lwyddodd hyn newid ei bywyd yn llwyr.

Dechreuodd Samyjo mynd am dro â’i chi, Frankie. Yn fuan, dechreuodd hi fynd am deithiau cerdded hirach a mentro fyny mynyddoedd. Mae hi wedi llwyddo cymryd 931, 058 cam ers i’r prosiect gychwyn ym mis Chwefror 2019. Hyd yma, record bersonol Samyjo yw 27,384 cam mewn dydd. Mae’r prosiect yn caniatau’r cerddwyr i hawlio pwyntia. Mae’r pwyntiau wedyn gallu cael eu gwario ar nifer o bethau gwahanol yn lle defnyddio arian.

 

Dyma Samyjo â’i chyfaill blewog, Frankie.

Prynodd Samyjo fagiau o ffrwythau, salad, ac wyau ar ei chyfer hi a’i theulu, gan ddefnyddio’r pwyntiau. Trwy wnued hwn, llwyddodd hi helpu ei theulu arbed arian, gan iddynt wario £30 yn aml ar y pethau hyn.

Aeth Samyjo i’r gampfa yn yr ysgol am y tro cyntaf yn ddiweddar. Mwynhaodd hi’r profiad gymaint, bod hi nawr wedi addo mynd yno’n rheolaidd.

Nawr bod hi mewn sefyllfa llawer iachach, yn gorfforol ac yn feddyliol, mae Samyjo wedi llwyddo gwella ei bywyd. Mae hi wedi graddio o’r ysgol a nawr mae’n canolbwyntio ar fynd i brifysgol i astudio therapi galwedigaethol.

Darganfyddwch mwy am GetFit Wales, yma.

Get the latest updates from Newydd