Dydw i ddim yn un mewn gwirionedd am gynadleddau a digwyddiadau rhwydwaith, felly, roedd meddwl am fynd i ddiwrnod ‘Hack’ 23 GIG, ar ddydd Sadwrn yn swnio’n hurt i mi. Wedi dweud hynny, am ryw reswm anhysbys, fe wnes i fynychu.
Fe wnes i ychydig o ymchwil o flaen llaw ac o’r hyn wnes i ei gasglu roedd yn ymddangos nad oedd o fel unrhyw gynhadledd roeddwn i wedi bod iddo o’r blaen. Mae’r cysyniad yn syml, byddai staff Ysbytai’r GIG, cleifion, a phobl sydd â diddordeb mewn iechyd a lles yn trafod yr hyn maen nhw’n teimlo sy’n broblem gyfredol ac yna byddai llwyth o bobl sy’n hoff o dechnoleg yn gweithio gyda’i gilydd i geisio datrys eu problemau.
Yn y digwyddiad roedden i gyd yn eistedd (130 yn bresennol) mewn darlithfa ac yna gofynnwyd a oedd gan unrhyw un syniad i’w drafod i sefyll yn erbyn y wal. Dim ond 60 eiliad ar y mwyaf y gallai pob cyflwyniad bara, roedd hyn yn ddigon o amser i’r unigolyn ddarparu’r broblem. Cefais sioc pan gododd tua 25 o bobl are u traed i gyflwyno problem. Fe ysbrydolodd cyflwyniadau pawb arall i mi wneud cyflwyniad fy hun.
Mae yna nifer fawr o gynlluniau pobl hŷn, a hoffwn edrych ar sut i helpu tenantiaid i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol i leihau unigrwydd cymdeithasol – a oes opsiwn rhatach na chynadledda fideo? Yn dilyn y cyflwyniadau aethon ni i gyd i’r brif neuadd lle ysgrifennodd pawb oedd wedi gwneud cyflwyniad eu problem ar bapur siart ar fwrdd i eraill eu gweld a darparu help mewn unrhyw ffordd y gallan nhw. Nid ydwyf erioed wedi gweld unrhyw beth mor arbennig, tra roeddwn yn sefyll wrth ymyl fy mhapur siart cefais lwyth o gysylltiadau, rhaglenni, dolenni cyfeirio a phobl â diddordeb i ddarganfod mwy. Byddai’r wybodaeth y cefais yn y 30 munud hwnnw wedi cymryd misoedd i mi ymchwilio. Yr hyn a oedd yn wahanol i’r holl siopau siarad eraill yr oeddwn i wedi bod o’r blaen oedd y ffaith bod grŵp prosiect bach wedi’i ffurfio ar y diwrnod i weithio ar ddatrys y broblem hon.
Archwiliodd y tîm, sef Owen, Ashley, Tayo a minnau bopeth, o ofynion maint arddangos fideo, adlewyrchu sgrin o dabled neu Alexa, y ffordd orau o hyrwyddo gweithgareddau a rhoi gwybodaeth gyson i ddefnyddwyr gwasanaeth, er mwyn hwyluso defnyddio’r system sefydlu a defnyddio’r system.
Ar ôl cynnal dadansoddiad manwl o’r systemau cyfredol, cytunwyd ar gysylltu teledu ‘Portal’ o Facebook â’r rhyngrwyd am ddim a ddarperir ac i deledu a sefydlwyd yn lolfeydd cymunedol yn y Cynlluniau Byw’n Annibynnol. Byddai sefydlu pob un o’r cynlluniau gyda chyfrif Facebook a’u cysylltu â’i gilydd yn caniatáu i’r ‘Facebook Portal’ i drawsnewid eu teledu i Gynadledda Fideo.
Er mwyn hyrwyddo gweithgareddau sydd yn dod i fyny, cytunwyd ar ddefnyddio cyfrifon Facebook i ychwanegu posteri o’r gweithgareddau ac actifadu’r ‘Superframe’ a fyddai’n troi’r teledu yn arddangosfeydd digidol. Ynghyd â hyn, roeddem hefyd yn meddwl y byddem yn defnyddio’r nodweddion Alexa sydd wedi’u hymgorffori yn y ‘Facebook Portal’ ac yn cysylltu calendr, a’i boblogi â gweithgareddau. Golygai hyn na’r unig beth y byddai angen i’r defnyddiwr ddweud byddai, ‘Alexa, beth sydd yn fy nghalendr’ i ddarganfod yr holl weithgareddau sy’n dod fyny yn y dyfodol agos.
Yn dilyn Diwrnod Hack 23 y GIG, mae ein grŵp prosiect yn dal i redeg yn gryf, yn cymryd rhan ym mhrofi’r prosiect ac wedi ymrwymo i orchwylio’r prosiect hwn hyd at y diwedd.
Rwy’n gobeithio yn y dyfodol y gall sectorau eraill ddysgu o ddigwyddiadau fel Diwrnod Hack y GIG ac efelychu eu diwylliant o gydweithio ar draws gwahanol ddiwydiannau yn eu cynadleddau a’u digwyddiadau rhwydwaith.
Dyma Scott Tandy yn arwyddo allan