In View

The home of community news

Nia

Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2020 – Stori Octavia Hill

 

Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2020 rydym yn edrych yn ôl ar fywyd menyw ysbrydoledig ym maes tai, Octavia Hill, a oedd yn ddiwygiwr cymdeithasol a wnaeth gyfraniad sylweddol at y cysyniad o reoli tai ac yn rym y tu ôl i ddatblygiad tai cymdeithasol a baratôdd y ffordd ar gyfer y sector fel yr ydym yn ei adnabod heddiw.

 

Bywyd Cynnar

Fe’i ganed ym 1838, fel un o naw o blant i James a Caroline Hill, y ddau yn gymeriadau rhyddfrydol ac yn ymwybodol yn gymdeithasol. Roedd y teulu’n ffodus ac yn byw bywyd cyfforddus, ei thad yn fasnachwr corn a’i mam o deulu weddol gyfoethog. Fe darodd y teulu amseroedd caled pan brofodd ei thad fethdaliad ar ôl i’w fusnes fethu yn ystod sefyllfa economi wael yn 1840. Yn ystod yr amser hwn roedd y teulu’n dibynnu ar dad Caroline am arian. Dioddefodd tad Hill ymhellach gydag iselder yn ystod yr amser hwn a gadawodd ei deulu a arweiniodd at i’w mam i weithio fel rheolwr yn y ‘Ladies Cooperative Guild’ yn Llundain er mwyn cefnogi’r teulu. Helpodd Hill i wneud amryw o swyddi o amgylch yr adeilad a chafodd ei ddychryn gan y tlodi a’r amodau byw ofnadwy a welodd o amgylch Llundain a’i hysbrydolodd i helpu’r tlawd. Yn 14 oed dechreuodd Hill wneud teganau ar gyfer plant tlawd ac yna aeth ymlaen i weithio fel copïwr i ddyn o’r enw John Ruskin yn ei hamser hamdden.

 

Rheoli Tai

Dechreuodd Hill ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella tai i bobl lai ffodus. Gwelodd fod landlordiaid yn aml yn diystyru eu cyfrifoldebau i’w tenantiaid a bod tenantiaid yn cael eu gormesu. Gwnaeth ymgyrch Hill argraff ar John Ruskin ac roedd hefyd wedi ei ffieiddio gan yr amodau byw yn slymiau Llundain a oedd yn enwog am dlodi a mân droseddau. Arweiniodd hyn ato yn buddsoddi yng ngweithgareddau arfaethedig Hill i fynd i’r afael â materion tai (am enillion o 5%) pan etifeddodd ffortiwn gan ei dad. Gyda’r arian hwn, prynodd Hill ei heiddo cyntaf ym 1865, eu hehangu a’u hadnewyddu a’u rhentu allan i denantiaid ar gyfradd fforddiadwy. Roedd hi’n cynnal a glanhau’r cartrefi yn rheolaidd ac roedd hi a’i chasglwyr rhent benywaidd yn unig yn ymweld â’r tenantiaid yn wythnosol i weithio gyda nhw a dod i’w hadnabod, gan weithredu rhywfaint fel gweithwyr cymdeithasol yn mynd i’r afael â materion fel eu hanghenion tai, cyflogaeth, cyllidebu, lles ac addysg.

 

Etifeddiaeth

Credai fod cyswllt personol â’r holl denantiaid yn bwysig ac roedd o’r farn bod angen trin tenantiaid mewn ffordd a oedd yn gwella eu hunan-barch. Arweiniodd hyn at berthynas dda rhwng y tenantiaid a’r landlord ac roedd y cynllun yn llwyddiannus.

Buddsoddwyd unrhyw warged o arian yn ôl yn y cynllun ar brosiectau a fyddai o fudd i’r tenantiaid fel meysydd chwarae a dosbarthiadau. O ganlyniad i lwyddiant y cynllun, derbyniodd Hill arian gan fwy o fuddsoddwyr ac roedd yn gallu datblygu mwy o gynlluniau. Erbyn 1874, roedd ganddi 15 cynllun tai a thua 3000 o denantiaid. Bu hefyd yn hyfforddi ac yn talu grŵp o fenywod fel gweithwyr cartrefi a daeth yn ffigwr cyhoeddus sylweddol.

Roedd Octavia Hill hefyd yn poeni am argaeledd lleoedd agored i bobl ddifreintiedig ac fe ymgyrchodd i warchod mannau agored fel ‘Ardaloedd i’r bobl’. Arweiniodd hyn at iddi ddod yn un o sylfaenwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Roedd Hill hefyd yn un o sylfaenwyr yr elusen Family Action (Cymdeithas Trefniadaeth Elusennau yn ffurfiol) a ffurfiodd y cysyniad o waith cymdeithasol heddiw ac roedd hefyd yn aelod o’r Comisiwn Brenhinol ar Gyfreithiau’r Tlodion.

Bu farw Hill o ganser ym 1912, yn 73 oed ar ôl effeithio ar reoli tai ar raddfa fyd-eang gyda rhai o’i syniadau’n cael eu copïo ledled Ewrop ac America.

Mae syniadiadau Octavia Hill o sicrhau bod gan denantiaid gartrefi gydag amodau byw da am brisiau fforddiadwy a sicrhau bod lleisiau tenantiaid yn cael eu clywed dal yn cael eu gweld fel gwerthoedd craidd cartrefi cymdeithasol heddiw ac mae nifer o brosiectau tai yn dal i weithredu ar ei chysyniadau.

Get the latest updates from Newydd