Wel, dyma gyfnod od i fod yn gweithio gyda’r cwmni!
Fy enw i yw gyda Newydd. Rydw i’n 26 oed ac fe ymunais i â’r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 2il Rhagfyr y llynedd.
Fe benderfynais i wneud cais am swydd gyda Newydd oherwydd fy mod i wedi clywed gymaint o bethau gwych gan fy narpar fam-yng-nghyfraith Debbie Xerri, sy’n Swyddog Tai gyda’r cwmni. Mae hi hefyd wedi gweithio yn adran gwasanaethau cwsmeriaid Newydd. Dyna’r maes lle dechreuais i fy ngyrfa 6 mlynedd yn ôl. Dwi wastad wedi bod yn genfigennus ohoni hi a fy mhartner am fod â swyddi sefydlog. Roeddwn i eisiau rôl fel yna ar ôl cael amser caled yn gynnar yn fy ngyrfa. Fe wnes i osod y nod o ymuno â Newydd, a diolch byth dwi wedi llwyddo.
Pan nes i ymuno 5 mis yn ôl, fe ges i groeso cynnes iawn gan y tîm i gyd. Yn y cyfweliad fe ddywedon nhw y byddai pawb yn siarad gyda fi, a doedden nhw ddim yn dweud celwydd. Roeddwn i’n rhan o deulu Newydd!
Fe aeth cwpwl o fisoedd heibio ac fe ddechreuais i gael fy nhraed danaf. Roeddwn i’n ffitio mewn yn dda gyda’r lleill ac yn cael adolygiadau gwych ar fy ngwaith. Roeddwn i wrth fy modd. Daeth y flwyddyn newydd, a gyda hi daeth COVID-19. Roedden ni gyd yn gwybod y byddai hyn yn golygu her newydd, ac fel aelod newydd o’r tîm roeddwn i yn poeni sut fyddai hyn yn effeithio arna i gan fy mod i yn dal ar fy nghyfnod prawf. Doedd dim mwy gallwn i wneud na chadw fy mhen i lawr ac aros am y newyddion diweddaraf o Newydd.
Yn ffodus iawn rydw i wedi medru parhau i weithio o gartref. Mae hyn wedi cyflwyno heriau newydd, nid dim ond i fi ond i bawb yn y cwmni. Ond dwi yn ceisio cofio bod yna ddoctoriaid a nyrsys sydd ddim â’r opsiwn o weithio o gartref felly ddylen i ddim gweld hyn fel her.
Mae’r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid wedi dod at ei gilydd dros y ddeufis diwethaf i gadw mewn cysylltiad. Rydym yn cymryd rhan mewn ambell i her am sbort, ac yn fwy pwysig, i roi help a chefnogaeth i denantiaid pan fo angen. Mae hyn yn dangos nad dim ond tîm ydyn ni, rydyn ni’n deulu, sef un o’r pethau cyntaf ddywedwyd wrtha i pan wnes i ymuno.
Yr unig beth alla i wneud nawr yw gweithio. Rydw i eisiau cyflawni llawer o bethau yn Newydd. Fe hoffwn i gymryd mantais o nifer o gyfleoedd o fewn y sefydliad. Rydw i wedi gwneud y pwynt yma’n glir i fy rheolwr, Eleanor, sydd yn cytuno bod yna nifer o adrannau y gallwn i symud iddyn nhw pan ddaw’r cyfle. Yr oll sydd angen i fi wneud yw cario mlaen i wneud be dwi’n gwneud!
Wedi derbyn y cyfle i ysgrifennu’r blog yma, fe hoffwn i ddiolch i Newydd am adael i fi ymuno â’r cwmni. Mae yna ambell un sy’n ymwybodol o’r profiadau rydw i wedi eu cael yn fy ngyrfa dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae’n teimlo fel tase fe gyd werth e nawr fy mod i yma.
Cadwch eich pennau lan bawb.